At:                         Y Pwyllgor Busnes

 

Oddi wrth:            Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes

 

Dyddiad:               1 Tachwedd 2011

 

Prosesau i alluogi Aelodau unigol i gynnig Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor i’w gwneud o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

 

Diben

 

1.   Ar 21 Mehefin 2011, bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog yn sgil y bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad. Cafodd cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, gan gynnwys rhai adrannau o Reol Sefydlog 25, ei gytuno gan y Cynulliad ar 13 Gorffennaf.

 

2.   Gofynnodd yr Aelodau am bapur ychwanegol yn amlinellu’r opsiynau i Aelodau unigol allu cynnig Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“y Ddeddf”). Cafodd y papur hwnnw ei ystyried yn y cyfarfod ar 28 Mehefin 2011, a chytunwyd yn fras ar y camau nesaf i’w cymryd. Mae’r papur hwn yn cynnwys manylion y newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 25.26 – 25.34 a fyddai’n sefydlu proses o’r fath.

 

Cefndir

 

3.   Yn ystod y Trydydd Cynulliad, roedd llwyddiant cynnig arfaethedig gan Aelod yn ddibynnol i raddau helaeth ar drafodaethau ag adrannau perthnasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn ystod y Trydydd Cynulliad, cafodd dau orchymyn arfaethedig Aelod Gydsyniad Brenhinol: Gorchymyn Jonathan Morgan AC ynghylch darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl a Gorchymyn Ann Jones ynghylch diogelwch tân domestig. 

 

4.   Wrth ystyried yr opsiynau sy’n agored i Aelodau unigol i gynnig Gorchmynion adran 109, penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai parhau â’r system falot yn amhriodol oherwydd bod llai o ddisgwyliad y bydd atodlen 7 yn cael ei diwygio o’i chymharu â’r trefniadau o dan Ran 3 ar gyfer diwygio atodlen 5. Hefyd, os a phryd bydd angen diwygio atodlen 7, bydd gwneud hynny dim ond yn bosibl ar sail consensws rhwng y deddfwrfeydd a llywodraethau perthnasol. Roedd paratoi cynigion ar gyfer Gorchmynion adran 109 drwy falot a gynhelir gan y Llywydd felly’n cael ei ystyried i fod yn amhriodol ar gyfer y setliad fel y’i hamlinellir yn Rhan 4.

 

 

 

Cynnig

 

5.   Ceir y testun arfaethedig ar gyfer Rheolau Sefydlog 25.26 – 25.34 newydd yn Atodiadau A a B.

 

6.   Mae’r newidiadau arfaethedig yn adlewyrchu penderfyniad y Pwyllgor Busnes ar 28 Mehefin 2011 y dylai proses ffurfiol fod yn ei lle i alluogi Aelod i geisio cytundeb y Cynulliad er mwyn cychwyn Gorchymyn adran 109 yn absenoldeb proses balot.

 

7.   Mae’r Rheolau Sefydlog newydd, fel y’u drafftiwyd, yn darparu proses sy’n cynnwys:

 

-        Aelod yn cyflwyno cynnig yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Gorchymyn arfaethedig o dan adran 109 o’r Ddeddf. Bydd angen Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd â’r cynnig yn darparu gwybodaeth ar yr effaith y caiff y Gorchymyn arfaethedig ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; eglurhad o pam bod angen y Gorchymyn arfaethedig; a manylion unrhyw gefnogaeth a gafwyd ar gyfer y cynnig, gan gynnwys manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd; 

 

-        Bod yn rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio unrhyw gynnig sydd wedi cael lefel penodol o gefnogaeth (gweler paragraffau 8 a 9 isod) at bwyllgor neu bwyllgorau i’w ystyried yn fwy manwl. Diben cyfeiriad o’r fath fyddai gofyn i’r Pwyllgor adrodd ar rinweddau cymharol y cynnig erbyn dyddiad arbennig er mwyn i’r adroddiad hwnnw gynorthwyo unrhyw ystyriaeth a phenderfyniad sy’n dilyn gan y Cynulliad mewn perthynas â’r cynnig ar gyfer Gorchymyn adran 109;

 

-        Ar ôl i’r pwyllgor neu bwyllgorau gyflwyno adroddiad ar rinweddau'r cynnig ar gyfer Gorchymyn, neu os bydd y dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny wedi mynd heibio, bod yn rhaid i’r Pwyllgor Busnes neilltuo amser ar gyfer trafod y cynnig.

 

Meini prawf ar gyfer cyfeirio

 

8.   Fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae Rheol Sefydlog 25.29 yn gosod y meini prawf bod yn rhaid i gynnig gael cefnogaeth o leiaf 10 o Aelodau sy’n perthyn i dair plaid wahanol, o leiaf, cyn i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio’r cynnig at bwyllgor er mwyn iddo ei ystyried. Gellir mynegi’r gefnogaeth honno naill ai wrth gyflwyno’r cynnig, neu drwy Aelodau’n ychwanegu eu henwau at y cynnig ar ôl iddo gael ei gyflwyno. Mae’r maen prawf bod yn rhaid i’r cynnig gael cefnogaeth o leiaf tair plaid yn debyg i’r hyn a bennwyd gan y Pwyllgor Busnes ar  gyfer ystyried cynigion Aelodau unigol ar gyfer eu trafod.

 

9.   Bydd y Rheolwyr Busnes am ystyried a yw’r meini prawf hyn yn briodol, neu a ddylid pennu rhai newydd. Efallai bydd y Rheolwyr Busnes am ystyried defnyddio dim ond un maen prawf, neu bennu trothwyau gwahanol.

 

Cyflwyno Bil

 

10.              Os bydd y Pwyllgor Busnes yn cytuno ar y newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 25.26 - 25.34, bydd angen i’r Rheolwyr Busnes ystyried a ddylai’r Aelod a oedd yn gyfrifol am gychwyn cynnig o dan Reol Sefydlog 25.27 a ddaeth yn Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor ar ôl hynny gael yr hawl i gyflwyno Bil sy’n gysylltiedig â’r Gorchymyn hwnnw.

 

11.              Fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, byddai Rheol Sefydlog 26.86 ddiwygiedig yn caniatáu i Aelod gyflwyno Bil o’r fath o fewn naw mis o wneud y Gorchymyn. Os bydd y Rheolwyr Busnes yn penderfynu na ddylai’r hawl hon fodoli, bydd angen dileu Rheol Sefydlog 26.86.

 

12.              Yn wahanol i Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Aelod yn ystod y Trydydd Cynulliad, bydd Llywodraeth Cymru yn symud y Gorchymyn ymlaen yn yr achos hwn. Mae’n bosibl y bydd y Gorchymyn terfynol yn wahanol iawn i’r un y bwriadodd yr Aelod gwreiddiol ei greu. Mae’n bosibl y bydd pynciau wedi’u hychwanegu ato neu eu dileu wrtho, gallai ystyr ‘sy’n gysylltiedig â’ fod yn anodd ei ddiffinio. Ar y llaw arall, gallai cael gwared ar y ddarpariaeth gael yr effaith o anghymell Aelod unigol rhag cychwyn Gorchymyn.

 

13.              At hynny, bydd natur Gorchmynion adran 109 yn wahanol i Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, a oedd wedi’u drafftio gyda golwg ar gyflwyno Mesur penodol ac a oeddent felly yn tueddu i fod yn eithaf cul neu benodol eu cwmpas, yn arbennig felly y rhai gynigwyd gan Aelodau.

 

Newid dilynol

 

14.              Os bydd y Rheolwyr Busnes yn penderfynu y dylid cadw Rheol Sefydlog 26.86 fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, bydd angen diwygio Rheolau Sefydlog 24.14 - 24.17 i gynnwys Aelodau sy’n cyflwyno Bil o dan Reol Sefydlog 26.86 o fewn y diffiniad o ‘Aelod sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth’.

 

Cyflwyno cynnig cyffredinol

 

15.              Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Gorchmynion adran 109 yn effeithio ar hawl cyffredinol Aelod i gyflwyno cynnig yn galw am gyflwyno Gorchymyn adran 109. Fel cynnig gan Aelod heb ddyddiad trafod, byddai’n fater i’r Pwyllgor Busnes benderfynu a all amser gael ei neilltuo i gynnig o’r fath gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn.

 

Penderfyniad

 

16.              Gwahoddir Rheolwyr Busnes i:

 

                            (i)        ystyried y newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 25.26 i 25.34 a chytuno arnynt mewn egwyddor;

 

                          (ii)        penderfynu pa feini prawf a ddylai fod yn gymwys o dan Reol Sefydlog 25.29 cyn y bydd yn rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio’r cynnig at bwyllgor (paragraffau 8 a 9);

 

                         (iii)        ystyried a ddylid cadw’r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26.86 ar gyfer cyflwyno Bil (paragraffau 10 i 13);

 

                         (iv)        a’r newidiadau dilynol yn sgil hynny (Rheolau Sefydlog 24.14 – 24.17).